Llandrindod
Mapiau Fictoriaidd
  Llanddewi Ystradenni yn 1902  
 

Mae’r map a welwch chi yma yn ddarn o fap a wnaed ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1902. Er bod y gymuned yma’n edrych yn debyg iawn i fel ag yr oedd yn 1839 mae yna rai newidiadau wedi digwydd yn ystod teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria.

 

  1. Mae capel Methodistaidd wedi’i adeiladu ar hyd ymyl y ffordd. Yn ystod y 19eg ganrif tyfodd yr enwadau "Anghydffurfiol" (Methodistiaid, Bedyddwyr, Annibynwyr ac ati) mewn poblogrwydd. Trwy drefnu cymunedau capelgar eu hunain roedd y bobl leol yn teimlo eu bod yn cyfrannu llawer iawn mwy i’w crefydd.  
  2. Mae Neuadd Llanddewi wedi ehangu ac mae iard goed wedi’i adeiladu yno. Yma, roedd coed lleol yn gallu cael eu torri ar gyfer eu gwerthu.  
 

3. Efallai mai’r newid pwysicaf oedd yr ysgol bentref newydd. Er bod yna ysgol feistr yn y pentref yn 1839 ychydig iawn o’r plant o’r teuluoedd tlotaf fyddai wedi mynychu’r ysgol. Erbyn diwedd teyrnasiad Fictoria roedd pob plentyn yn y plwyf yn derbyn addysg, hyd yn oed y teuluoedd tlotaf Roedd hyn yn golygu fod ganddynt fwy o gyfleoedd wedi iddynt dyfu. Yn hytrach na chael dim posibilrwydd o fywyd mewn unrhyw le heblaw am weithio ar y tir, roedd plant yn cael digon o addysg i alluogi rhai ohonynt i wneud rhywbeth gwahanol gyda’u bywydau.

 
  Cymharwch hwn gyda map o’r ardal yn 1839..  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Llandrindod

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod