Llandrindod
Mapiau Fictoriaidd
  Llanddewi Ystradenni in 1839  
 

Mae’r map a welwch chi yma yn seiliedig ar fap y degwm ar gyfer plwyf Llanbister ac mae’n rhoi syniad da iawn i ni o sut oedd y pentref yn edrych ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria.

Nid oedd y map gwreiddiol wedi’i unioni gyda Gogledd ar ei ben, felly mae’n rhaid i ni ei droi er mwyn ei gwneud yn haws i ni ei gymharu gyda mapiau diweddarach.

MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bawb bron dalu degwm i Eglwys Loegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm i fod yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau i ddangos pa eiddo oedd gan bawb
  Wrth edrych ar y map gallwch weld fod y gymuned wedi tyfu wrth ymyl y ffordd Ogleddol yma i Sir Drefaldwyn. Yng nghanol y pentref gallwch weld llyn y felin ar gyfer y felin leol.  
 

Er bod y map yn dangos mai pentref bychan iawn ydoedd mae cyfrifiad 1841 yn rhoi darlun o gymuned fach brysur i ni. Roedd y rhan fwyaf o deuluoedd yn ennill eu bywoliaeth trwy ffermio ac roedd ffermwr o’r enw John Morgan yn byw yn Neuadd Llanddewi sydd ar ganol y map. Ar wahân i’r ffermwyr a gweision fferm yn y plwyf roedd yna;- 5 crydd, 4 saer, 2 gofaint, 5 saer maen, 1 llifiwr, 1 gwneuthurwr olwynion, 1 groser, 1 adeiladwr, 1 gwneuthurwr clociau ac oriawr, 1 ysgol feistr, 1 i ddal tychod ac 1 groser.
Y dafarnwraig Susanna Griffiths oedd yn rhedeg y Llanddewi Arms a’i 4 gwas. Roedd y curad lleol (ficer cynorthwyol) a phorthmon yn lletya yma ar adeg y cyfrifiad yma.

 
  Cymharwch hwn gyda map o’r ardal yn 1902.  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Llandrindod

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod