Llandrindod
Yfed y dwr
  Ymwelwyr cyntaf i Landrindod  
 

The Roedd pobl yn gwybod am ddwr mwynol yr ardal ac yn ei ddefnyddio rhyw ychydig o ddyddiad cynnar iawn, ond daeth cannoedd o ymwelwyr i Neuadd Llandrindod o 1749 tan tua 1789. Serch hynny yn dilyn yr ychydig o ddatblygu yma, mae’r tudalennau cynt yn dangos mai llwm iawn a gwag oedd llawer o’r ardal tan yr 1860au.
Ond roedd rhai lleoedd wedi bod yn darparu ar gyfer pobl oedd eisiau bod mewn awyrgylch iach ac eisiau blasu’r dwr mwynol lleol am gryn amser, megis yr hen ffermdy yma...

 
Ffermdy Trefonen
Awst 1869
Ymwelwyr cyntaf i Landrindod
Peidiwch byth â mynd ar wyliau heb eich het silc ! Mae hyd yn oed y fenyw sy’n dal y baban yn gwisgo un !
  Mae’r hen ffotograff yma a dynnwyd ar y 18fed Awst 1869 yn un diddorol iawn. (Mae’n dda ein bod wedi gallu rhoi dyddiad mor bendant i lun mor hen, oherwydd fel arfer mae’n rhaid gwneud cryn dipyn o waith detectif – ac weithiau mae’n rhaid dyfalu – er mwyn rhoi dyddiad i lawer ohonynt!)
Portion of early mapMae’r llun yma yn dangos ty o’r enw 'Trefonen', dywedwyd fod y lle wedi cynnig gwyliau hamddenol ond byr i "country gentlemen and clergymen" am "the past century" !
Gallwch weld Trefonen yn agos at ben darn o fap 1833 sydd ar dudalen cynt. Cafodd y rhan yma ei datblygu’n ddiweddarach a daeth yn rhan o’r dref oedd yn tyfu, i’r gogledd ddwyrain o’r canol. Bellach nid oes dim ar ôl o’r hen ffermdy.
Darn o
fap cynnar
 

Yn ôl i ddewislen "Yfed y Dwr"

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod