Tref-y-clawydd a'r cylch
Trosedd a chosb
  Trawsgludiaeth y tu draw i’r moroedd  
  Yn ystod Haf 1844 cafwyd gorchmyn i dri o weithwyr o blwyf Bugeildy sefyll eu prawf o flaen Llys Chwarterol yn y Neuadd Sirol, Llanandras.
Y dynion oedd Richard Chandler, Francis Bowen, a Morgan Bowen. Dynion tlawd oedd pob un ohonynt nad oedd yn gallu darllen nac ysgrifennu ac a gyhuddwyd o ddwyn 53pwys (tua 23 cilo) o wlân oddi wrth Thomas Roberts o Langynllo.
Pan ddaeth diwrnod y prawf, ni ddaeth Morgan Bowen yno ac anfonwyd y cwnstabl allan i chwilio amdano. Cafwyd Francis Bowen yn ddieuog ond cafwyd Richard Chandler yn euog. Mae’r darn yma o’r cofnodion yn cofnodi ei gosb...
 
 
 

Mae’n darllen -
"Ordered that the said Richard Chandler be transported to such place beyond the Seas as Her Majesty with the advice of her Privy Council shall direct for the term of 10 years"

Mae’r iaith gyfreithiol yma yn golygu y byddai ymgynghorwyr y Frenhines yn penderfynu lle y byddai’n mynd.
Ar yr adeg yma roedd carcharorion yn cael eu hanfon i drefedigaethau cosb yn Awstralia, lle’r oeddynt yn cael eu gorfodi i weithio yn y caeau o dan olwg gwarcheidwaid. Yma byddent yn cael eu chwipio a’u gorfodi i weithio ar felin droed os nad oeddynt yn ymddwyn yn iawn.
Ildiodd Morgan Bowen i’r awdurdodau ac yn dilyn bod yn y llys cafodd ef hefyd ei ddedfrydu i’w drawsgludo. Wedi deng mlynedd byddai Richard Chandler a Morgan Bowen wedi’u gadael yn rhydd yn Awstralia a hynny heb unrhyw fodd o ddod yn ôl i Gymru.

Yn ôl i ddewislen Trosedd Tref-y-clawdd