Y Gelli a Dyffryn Gwy
Bywyd ysgol
  Cynhaeaf gyntaf, ysgol wedyn  
Llun gan
Rob Davies

Mae Dyddlyfrau neu ddyddiaduron swyddogol llawer o ysgolion gwledig yn oes Fictoria yn cynnwys amrywiaeth o resymau pam nad oedd plant yn yr ysgol.
Yr esgus mwyaf cyffredin oedd y cynhaeaf gwair, a gelwid gwyliau’r haf yn ‘wyliau’r cynhaeaf’ am flynyddoedd lawer. Mae’r sylw yma o Ysgol Llandeilo Graban yn 1895 yn dangos y gwahaniaeth roedd cynhaeaf gwair yn ei wneud i fywyd ysgol…

"Sept 16th - Harvest is not finished so could not open school".

Boys working at harvest
School diary entry
  Roedd yr athro yma’n sylweddoli nad oedd dim pwynt dechrau ar wersi eto gan fod y rhan fwyaf o’r plant yn dal i helpu yn y caeau gwair. Ychydig iawn o blant fyddai’n dod ‘nôl i’r ysgolion ar ôl gwyliau’r cynhaeaf. Roedd hyn yn wir am Ysgol Genedlaethol Llyswen yn 1875...  
  School diary entry
 

Ysgrifennwyd hyn yn y dyddlyfr ar Fedi 13eg-
"Commenced school after the Harvest Holidays. Very few children present".
Ond dyma resymau eraill am beidio mynd i’r ysgol…

Seidr, defaid a madarch..

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli