Y Gelli a Dyffryn Gwy
Bywyd ysgol
  Y Clefyd Coch wedi cau’r ysgol
 

Sickly childIt Roedd yn beth cyffredin yn amser Fictoria i salwch ledu’n gyflym iawn trwy’r holl gymdogaeth. Roedd Afiechydon heintus fel diptheria, y clefyd coch, y frech goch a’r pâs yn lledu’n hawdd iawn pan gasglai llawer o bobl at ei gilydd. Gan fod plant mewn ardaloedd gwledig yn dod i’r ysgol o ardal eang yn aml, roedd yna beryglon oddi wrth afiechyd ac epidemig. Mae Dyddlyfrau’r ysgolion o’r cyfnod bron i gyd yn sôn am blant yn absennol oherwydd salwch. Byddai’n rhaid cau ysgolion am wythnosau neu hyd yn oed fisoedd weithiau.

Mehefin 13eg
School diary entry
Awst 1af
School diary entry
 

Mae’r enghraifft yma i’w gweld yn Nyddlyfr Ysgol Genedlaethol Bochrwyd yn 1892
Mehefin 13eg - "Owing to an outbreak of scarlet fever at the school-house, the school was closed until further notice from the sanitary authority of this district".
Awst 1af - "The school was re-opened after being closed for 7 weeks".

Mae mwy o enghreifftiau o’r afiechyd yn lledu yn yr ysgolion lleol yn ystod oes Fictoria ar y dudalen nesaf…

Marciwch "S" am salwch..

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli