Crughywel
Ennill bywoliaeth
Haearn tawdd yn yr ardal | ||
Y ddau brif ddeunydd sy’n angenrheidiol i wneud haearn mewn ffwrnais ydy mwyn haearn a chalch. Roedd y ddau ddeunydd yn cael eu cloddio o lethrau’r mynyddoedd i’r de o Ddyffryn Wysg ac adeiladwyd odynnau calch i droi’r garreg galch yn galch powdwr. Roedd hi’n gwneud synnwyr i adeiladu ffwreisi gwneud haearn yn gyfagos, ac ar ôl agor y gamlas ar hyd Dyffryn Wysg, byddai’n haws cludo’r deunyddiau hyn. |
Archifdy Sir Powys |
Mae’r
hen engrafiad uchod yn dangos y ffwrnais a adeiladwyd yn Glangrwyne
ger yr Afon Wysg. Fel y gwelwch o’r darn o fap Fictoraidd ar y dde, nid
oedd pont i groesi’r afon fan yma. Byddai calch o’r odyn (gallwch
ei gweld), a siarcol ar gyfer y ffwrnais, yn gorfod cael eu cludo ar draws
rhyd gan geffyl. (Edrychwch ar y llun uchod.) |
||
Mwy am haearn tawdd yn yr ardal… |