Crughywel
Ennill bywoliaeth
Mwy am..
Haearn tawdd yn yr ardal  
 

Yn ogystal â ffwrnais Glangrwyne, adeiladwyd ffwrneisi eraill ar hyd yr afon Clydach. Mae’r hen engrafiad isod yn dangos un o’r rhai cynnar a losgai siarcol. Gallwch weld yr olwyn ddwr yn gyrru’r peiriannau, sef y morthwylion mawr yn morthwylio’r haearn poeth i’w siâp.

 
  Hen engrafiad o ffwrnais ClydachArchifdy Sir Powys
 

Adeiladwyd llwybr tram ar hyd Dyffryn Clydach er mwyn cludo deunyddiau o’r gamlas i’r ffwrnais ac yn ôl. (Edrychwch ar y map ar y dde). Roedd y ffwrneisi bychain hyn yn gweithio yng nghyfnod cynnar Oes Fictoria. Daeth ffwrneisi mwyn wedyn yn cael eu gyrru wrth losgi glo, gan wella swm y cynnyrch. Adeiladwyd gwaith haearn arall yn Beaufort gan Joseph and Crawshay Bailey. Roedd hwn yn cynnig llawer o gyflogaeth yn lleol.
Yn y pen draw, roedd y ffwrneisi bychain hyn yn ei chael yn anodd cystadlu â gweithiau haearn mwy o faint mewn mannau eraill yn Ne Cymru, ac erbyn 1870 roedden nhw wedi cau.
.

 
 

Yn ôl i ddewislen Enill Bywoliaeth Crughywel

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel