Crughywel
Ennill bywoliaeth
  Cloddio glo yn yr ardal  
 

Mae prif wythiennau glo De Cymru i’r De o ardal Crughywel ond y mae rhai lefelau glo sy’n cyrraedd y cornel hwn o Sir Frycheiniog. Rydyn ni’n gwybod bod glo yn cael ei gloddio o’r llethrau o gwmpas Llanelly ers 1600 os nad cyn hynny. Erbyn blynyddoedd cynnar Oes Fictoria, roedd tair glofa yn cynhyrchu glo yn yr ardal.

 
 

Roedd glofeydd Gellifelen a Llwyn-y-pwll yn cyflogi tua cant o ddynion yr adeg honno. Roedd glofa arall i’r Gogledd o Frynmawr o’r enw Ellwoods yn cael ei rheoli gan ddyn o’r Alban.

Roedd y glofeydd lleol hyn yn cynhyrchu glo i’r gweithfeydd haearn lleol ac hefyd yn cludo glo i Aberhonddu mewn badau glo ar y gamlas. Pan orffennwyd toddi haearn, roedd hyn yn broblem. Ond adeiladwyd rheilffordd i lawr dyffryn Clydach a olygai bod y glofeydd lleol hyn yn gallu danfon eu glo ymhellach i ffwrdd.

  Roedd gweithio yn y pyllau glo yn galed ac yn beryglus, ac roedd plant mor ifanc â phump oed yn gweithio dan ddaear yn Sir Frycheiniog. Weithiau, byddai’r glowyr yn cael eu talu drwy gael swm am bob tunnell o lo, yn hytrach na derbyn cyflog sicr. Roedd y glowyr yn aml yn mynd â’u teuluoedd cyfan dan ddaear yn yr ymdrech i gloddio mwy o lo ac i ennill digon o arian i fyw.  
  Ymwelwch â’r tudalennau ar y pyllau glo o gwmpas Ystradgynlais i ddysgu mwy am y diwydiant yn Sir Frycheiniog.  
 

Yn ôl i ddewislen Enill Bywoliaeth Crughywel

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel