Digital History Project logo

Machynlleth
Yr Ysgol Genedlaethol

Am fwy o wybodaeth ar wreiddiau’r Ysgolion Cenedlaethol, gweler ein tudalennau Addysg. Sefydlwyd ar "egwyddorion rhyddfrydol"
Roedd yr Ysgol Genedlaethol ym Machynlleth i raddau helaeth yn ddyledus i Mr John Jones am iddo roi grant o £1,000 i’w sefydlu, gðr nad oedd yn debyg i’r dyngarwr lleol nodweddiadol.
Mewn llythyr afiaethus at y Parch John Roberts, "Pregethwr y gynulleidfa Anghydffurfiol yn Llanbrynmair", dyddiedig 20fed Mai 1828, gyda rhan ohono wedi’i atgynhyrchu islaw, mae’n arddangos agwedd rhyddfrydol tuag at ddarparu addysg yn lleol:
Archifdy Sir Powys
M/D/HPA/3/2/5
Extract from letter of 1828
  Mae’r dyfyniad uchod o’r llythyr yn darllen fel a ganlyn:
"Dear Sir
I should deem myself deficient in civility and that Christian Philanthropy which I profess, did I not acknowledge the receipt of your kind letter. I am decidedly of your and Mr Morgan's sentiments on the subject respecting the Establishment of the school at Machynlleth, that it should be established and conducted on liberal principles; my extreme concern to perceive the want of education in Machynlleth and its neighbourhood induced me to propose to subscribe and giveing my aid towards its establishment and thus afford the means and the opportunity
under the blessing of God of instruction moral and religious to the existing and I trust to future generations; and I thus expressed my hope and trust and it should be established upon liberal principles, making no difference between those of the established church and the protestant dissenters..."
 

Mae Mr Jones yn honni yn y llythyr nad yw’n malio ble mae’n addoli, " nad o dan ba enwad" ("nor under what denomination") ac mae’n gobeithio y gellir rhyddhau plant i rieni anghydffurfiol yn yr Ysgol Genedlaethol newydd i fynd i’w capeli eu hunain ar y Sabath. Roedd hwn yn agwedd oddefgar iawn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg cynnar pan ‘roedd yr Ysgolion Cenedlaethol yn cynrychioli diddordebau yr eglwys sefydledig.

Mae 3 tudalen ar yr Ysgol Genedlaethol. Defnyddiwch y cysylltiadau blwch i weld y tudalennau eraill.