Ystradgynlais
Bywyd ysgol
Plant yn gweithio yn y pyllau glo | ||
Mae’r darn a welwch chi nesaf o gofnodion Ysgol Ynysgedwyn yn sôn am nifer o fechgyn o’r ysgol a oedd yn gweithio yn y pyllau glo lleol er mai dim ond deuddeg mlwydd oed neu lai oeddynt! Ysgrifennwyd hwn yng nghofnodion
yr ysgol yn Rhagfyr 1884, ac mae’n
darllen: |
Archifdy Sir Powys |
Mae hyn yn golygu fod cyflogwyr y pyllau glo wedi bod yn gofyn i weld beth oedd oed y bechgyn gan stopio’r rhai ifancaf rhag gweithio yno – ond dim ond un aeth yn ôl i’r ysgol ! Mae hanes tebyg iawn wyth mlynedd cynt yn 1876 a nododd bod "Some more big boys coming in owing to the stoppage of the works", gan ddangos fod rhai o’r bechgyn hyn wedi bod yn gweithio yn y diwydiant lleol yn lle mynd i’r ysgol, cyhyd â bod gwaith ar gael iddynt yno. |
||