Ystradgynlais
"Gough's Buildings"
  Stryd y Dwr a'r Sgwâr  
 

Mae'r map sy'n dyddio yn ôl i 1877 yn dangos sut roedd y strydoedd yn gorwedd ym mhen deheuol yr "ynys" yn hen Ystradgynlais. Nid ydynt wedi newid rhyw lawer o'r hyn a welwch ar y map o 1837. (edrychwch ar "Gough's buildings 1")

 
 

Un amser roedd pob un o'r strydoedd y gwelwch chi ar y darn yma o'r map wedi'u nodi fel "Gough's Buildings" er gydag amser daeth enwau eraill arnynt.

(1) Bellach mae'r rhes hir yma o dai i weithwyr oes Fictora sydd ar hyd ochr y gamlas yn cael eu hadnabod fel y Rhestr Fawr. O'r dechrau llwm iawn hwn mewn bywyd y daeth sawl dyn ymlaen i wneud yn eithriadol o dda yn eu meysydd arbennig. Efallai mai'r un enwocaf oedd y cerddor a'r cyfansoddwr Dr Daniel Prothero.

 

(2) Adeiladwyd y tai bach iawn sydd yn Stryd y Dwr union wrth ymyl yr afon, yn y pendraw bu'n rhaid eu dymchwel gan fod dwr yn llifo i mewn iddynt mor aml.

(3) Adeiladwyd Capel Sardis i ddechrau ymhellach i'r gogledd ond bu'n rhaid iddo symud (edrychwch ar "Gough Buildings 3"). Llwyddodd y gynulleidfa gael rhai o'r tai am gyfnod ym Mhenybont Row a 'Gough's Buildings'. Rhoddodd rai o'r trigolion eu gerddi er mwyn cael safle i gapel newydd ac felly adeiladwyd capel newydd hardd gan aelodau'r capel eu hunain yn 1861 gan ddefnyddio'r deunyddiau o'r hen Gapel.

(4) Y Sgwâr, Ystradgynlais, o flaen Ynysgedwyn Arms oedd calon y gymuned yn ystod cyfnod Fictoria wrth i siopau agor oddi amgylch i'r sgwâr. Roedd y sgwâr hefyd yn lle naturiol i bobl ddod ynghyd ar gyfer cyfarfodydd awyr agored a phrotestiadau.

 
 


Mae'r ffotograff yma sy'n dyddio yn ôl i ddiwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria yn dangos Stryd y Dwr ar y chwith, Capel Sardis ychydig i'r dde, a'r Rhestr Fawr mewn rhes yn y cefndir.

 
 

Ewch i ddewislen "Gough's Buildings"

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais