Ystradgynlais
"Gough's Buildings"
  Ar hyd y gamlas  
 

Fe welwch chi nesaf ddarn o fap Arolwg Ordnans yn dyddio yn ôl i 1877, pedwar deg o flynyddoedd yn ddiweddarach na'r map am 'Gough's Buildings' 1. Mae'n dangos y datblygiadau newydd ym mhen Gogleddol yr ynys. Ar y mapiau cyntaf roedd yr holl adeiladau hyn yn cael eu nodi fel 'Gough's Buildings' er bod ganddynt enwau eraill erbyn heddiw.

 
 

Mae Camlas Abertawe yn rhedeg trwy'r map gyda basn sydd yn ddigon llydan i gychod y gamlas droi o amgylch (wrth rif 1337). Ar dop y llun, mae pont arbennig o'r enw traphont oedd yn cludo camlas dros yr Afon Giedd. Wrth ymyl y draphont mae hen odyn calch oedd yn medru troi'r carreg calch oedd yn cael ei gludo i mewn ar y cychod yn galch ar gyfer gwaith adeiladu, amaeth neu weithio haearn.
(Ysgol Cynlais sydd yn y bwlch wedi'i nodi â 1355.)
Mae yna dri lle arall sydd wedi'u nodi â rhif ar y map -

(1) yn nodi lleoliad yr hen bwll glo oedd allan o ddefnydd yn 1877. Enw'r pwll oedd Pwll Bach Cwmgiedd ac o achos y gwaith o dan ddaear achosodd lawer o broblemau'n lleol. Dioddefodd y Capel Sardis cyntaf yn Ystradgynlais, a adeiladwyd ger y gamlas yn 1841, ddifrod o achos i'r hen dwnelu syrthio yn ystod oedfa yn 1859 er mawr syndod i'r rheini oedd yno. Daethpwyd o hyd i safle newydd.

 

(2) mae'n nodi'r bwthyn dwbl sydd bellach yn cael ei adnabod fel 5 Crown Cottages. Mae pobl yn meddwl mai'r ty tafarn wrth ymyl y gamlas roddodd yr enw crown i'r bythynnod yma. Yn fwy na thebyg roedd Rhif 5 yn cael ei ddefnyddio fel rhywbeth arall ar ddechrau'r 19eg ganrif. Mae pobl yn meddwl mai dyma efallai oedd safle'r ysgol ddydd gyntaf yn Ystradgynlais.

(3) mae'n nodi lleoliad Gorsaf yr Heddlu a'r Llys Ynadon a adeiladwyd yn 1857-8 i wasanaethu'r gymuned oedd yn tyfu. Edrychwch ar y tudalennau ar Drosedd a Chosb yn yr ardal er mwyn gwybod mwy am yr heddlu lleol.

 
 

Ewch i ddewislen "Gough's Buildings"

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais