Ystradgynlais
Trosedd a chosb
  Achos Rachel Morgan
Geirfa
 

Ym mis Ionawr 1842 daeth Sesiynau Chwarter Sir Frycheiniog ynghyd yn Aberhonddu i roi’r achosion oedd o’u blaenau ar brawf. Cyhoeddwyd rhestr o garcharorion i sefyll eu prawf ac un o’r rhain oedd Rachel Morgan menyw dlawd o Ystradgynlais. Cyhuddwyd hi o ddwyn o siop a oedd yn berchen i Richard Davies.
Mae’r darn nesaf ar gyfer Mrs Morgan ac mae wedi dod o’r rhestr a gyhoeddwyd

Ynadon Heddwch – dynion addysgiedig oedd yn berchen ar dir oedd yn cynnal materion swyddogol y sir ar ran y Frenhines.
 
 
 

Y tri enw ar ben y darn yw enw’r tri Ynad Heddwch oedd yn teimlo fod yna ddigon o dystiolaeth yn ei herbyn i’w rhoi ar brawf.
Y tyst cyntaf yn ei herbyn oedd Rees Davies mab perchennog y siop oedd yn gofalu am y siop ar y 23ain Awst 1841 pan gafodd yr arian ei ddwyn. Dywedodd fod mab Mrs Morgan wedi dod i mewn i’r siop i brynu olew. Pan aeth y ddau ohonynt i lawr i’r seler i’w arllwys caeodd Rees ddrws y siop. Pan ddaethant nôl, roedd y drws ar agor a gwelodd Mrs Morgan yn symud yn gyflym i ffwrdd ar draws y ffordd i lle’r oedd ei mab arall yn aros amdani. Yna gwelodd Rees fod bag o arian wedi mynd ar goll allan o’r til.

Y noson honno daeth Rachel Morgan i’r siop a gwario dau hanner coron. Teimlodd Rees ei bod yn anarferol iddi hi gael gymaint o arian. Dim ond 25c fyddai hyn heddiw ond dim ond 7c y diwrnod fyddai ei mab yn ei ennill am ei waith.


darlun gan Rob Davies
  Mwy am achos Rachel Morgan..  
 

Yn ôl i ddewislen trosedd Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais