Ystradgynlais
Trosedd a chosb
Mwy am..
Achos Rachel Morgan  
 

Dywedodd tyst arall Mary Davies wrth y llys ei bod wedi gweld Rachel Morgan yn rhedeg i ffwrdd o’r siop ar y prynhawn o dan sylw. Efallai mai tystiolaeth Maria Morris yw’r pwysicaf gan iddi ddweud bod Rachel Morgan wedi dod i’w thy a gofyn iddi ddweud celwydd wrth yr awdurdodau.

 
   
  "She wanted me to swear I was in her house when the Boy went for the oil. I refused."
Pe bai Maria wedi dweud ei bod hi yno gyda Mrs Morgan wedyn ni fyddai Mrs Morgan wedi gallu dwyn yr arian o’r siop. Dywedodd Maria Morris ei bod hi wedi gwrthod gwneud hyn a bod Rachel Morgan wedi’i bygwth.
"Prisoner said if I refused she would remember me as long as I lived".

Gwadodd Rachel Morgan ei bod unrhyw le yn agos i’r siop a gan fod neb wedi’i gweld yn dwyn yr arian fe’i cafwyd yn ddieuog. Roedd y gosb i droseddwyr yn ystod cyfnod Fictoria yn llym iawn, ond mae’n dda gwybod bod achosion fel yma yn deg.
A wnaeth Rachel Morgan ddwyn yr arian? Ni fyddwn byth yn gwybod.
.
 

Yn ôl i ddewislen trosedd Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais