Ystradgynlais
Bywyd ysgol
  Rhy dlawd i dalu ceiniog yr wythnos  
 

Roedd llawer o bobl yn ystod cyfnod Fictoria, yn arbennig y bobl oedd yn byw yn y wlad fel y rhai yn Sir Frycheiniog, yn dlawd iawn. Roedd y bobl dlotaf yn ofni cael eu hanfon i’r tloty lleol, lle’r oedd bywyd yn galed iawn.
Mae yna lawer o atgofion o’r math yma o dlodi yn nyddiaduron ysgolion Fictoraidd, tebyg i’r un yma yn nyddiadur ysgol Ynysgedwyn yn 1888.

 
  School log book entryArchifdy Sir Powys

 

Mae’r darn yn darllen:
"The attendance has been unsatisfactory all through the week. Several children are ill (especially infants) and others are absent on the plea of poverty...."

Ystyr y 'plea of poverty' yw bod y plant yn dweud bod eu rhieni’n methu â thalu am eu haddysg. Trethi lleol oedd yn talu am ysgolion bwrdd, ond roedd disgwyl i rieni gyfrannu ceiniog (hanner ceiniog) yr wythnos am bob plentyn oedd ganddynt yn yr ysgol. Roedd hyd yn oed gymaint â hyn yn ormod i rai teuluoedd.

Mwy am broblemau arian..

Drawing of ragged boy
 

Ewch i ddewislen ysgolion Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais