Ystradgynlais
Bywyd ysgol
  Talu am wersi ysgol
 

Mae’r darn yma o Lyfr Cofnodion Ysgol Ynysgedwyn yn 1889 yn dangos fod yr ysgol yn disgwyl fod pob un yn talu ceiniog yr wythnos am eu haddysg.

Ysgrifennwyd hwn ym mis Ebrill 1889, ac mae’n dweud:
"According to instructions from the Board, I have made special efforts this week to collect School Fees. Only those children who had brought their School Fees (and the paupers) were allowed to enter School on Monday morning".

 
 
  School log book entryArchifdy Sir Powys

 

Mae hwn yn dangos fod plant teuluoedd tlawd oedd yn derbyn arian o’r plwyf i’w cadw mewn bwyd a dillad, neu oedd yn byw yn y tloty (ac yn cael eu galw’n "dlodion") ddim yn gorfod talu.

Mae darn cynharach a wnaed yn 1881 yn dweud "Have been very busy this week preparing a list of all school pence defaulters - the total arrears of fees amount to £43..4..8."
Mae hyn yn meddwl fod 43 punt 4 swllt ac wyth geiniog yn yr hen arian yn ddyledus i’r ysgol, ychydig yn fwy na £43.23 fyddai hyn heddiw - swm eitha mawr yn 1881. Mae enghraifft arall o’r problemau ariannol oedd yn wynebu llawer o bobl yn yr ardal ar y dudalen nesaf…

Enghraifft arall o dlodi lleol..

Ragged boy drawing
 

Ewch i ddewislen ysgolion Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais