Ystradgynlais
Bywyd ysgol
Turio am lo | ||
Mae’r darnau yma o gofnodion Ysgol Ynysgedwyn yn 1878 yn helpu i ddangos pa mor dlawd oedd llawer o’r teuluoedd lleol yn ystod cyfnod Fictoria. Mae’n sôn am blant yn colli ysgol achos eu bod allan yn casglu glo o bwll gerllaw, wedi i waith ar ran o’r pwll gael ei adael. |
Archifdy Sir Powys |
Mae’r darn yma o Lyfr Cofnodion yr
ysgol yn dweud: Ysgrifennwyd hwn ym mis Hydref
1878, yn fwy na thebyg roedd rhieni’r plant yma yn ceisio chwilio
am lo er mwyn ei gael yn rhad ac am ddim i wresogi eu cartrefi yn ystod
y gaeaf i ddod. |
||