Ystradgynlais
Trosedd a chosb
  Plismona Cwm Tawe Uchaf 1  
 

Cyn cychwyn y lluoedd heddlu roedd cyfraith a threfn yn cael ei gynnal gan gwnstabliaid y plwyf, sef pobl leol oedd yn gwneud y gwaith am flwyddyn. Fel arfer nid oeddynt wedi cael unrhyw hyfforddiant ac yn aml iawn nid oeddynt am wneud y gwaith.
Ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria pasiodd y llywodraeth Ddeddf yn gadael i siroedd fel Sir Frycheiniog gychwyn Heddlu Sirol neu luoedd heddlu. Daeth lluoedd heddlu tebyg yn Sir Drefaldwyn yn fuan wedi hyn (edrychwch ar y tudalennau ar Journal Cwnstabl Jones) ond ni ddaeth un yn Sir Frycheiniog. Yn lle hyn penderfynodd y Sir i gael nifer Uwch Arolygwyr yr Heddlu oedd yn cael eu talu am y gwaith i wneud yn siwr bod y cwnstabliaid plwyf yn gwneud eu gwaith yn iawn ac i roi cymorth iddynt.

Yn ystod Hydref 1850 rhoddwyd gorchmynion gan yr ynadon i roi gwisg swyddogol i Uwch Arolygwyr yr Heddlu. Mae’r darn o’r cofnodion a welwch chi nesaf yn sôn am ba ddillad y dylent fod yn eu gwisgo ac mae’r llun ar y (dde) yn dangos sut oeddynt yn edrych.

   
  1 Blue uniform, Frock coat, Brass Buttons and worsted
emboidered collar . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .40/- (£2)
1 Pair Superfine Trousers . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .18/6 (82p)
1 Superfine Hat . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . 14/6 (72p)
1 Silk Stock [a cravat worn round the neck like a tie] . 2/6 (12p)
1 Police cape as Metro Police [London]. . . . . . . . . . . . . . .5/- (25p)
 
  Mwy am yr Heddlu yng Nghwm Tawe Uchaf..  
 

Yn ôl i ddewislen trosedd Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais