Ystradgynlais
Trosedd a chosb
Mwy am...
|
Blismona Cwm Tawe Uchaf 2 |
Geirfa
|
Hyd yn oed gydag Uwch Arolygwyr proffesiynol yr heddlu oedd yn gweithio’n llawn amser yn yr ardal, roedd yna broblemau. Yn Ystradgynlais Uwch Arolygwyr yr Heddlu oedd y broblem! Roedd Thomas Vigers yn hoff o wneud twrw ac yn aml iawn roedd yn feddw. Roedd yn esgeuluso’i ddyletswyddau ac yn defnyddio iaith anweddus gymaint nes i’r bobl leol gasglu enwau ar ddeiseb er mwyn cael ei wared. Yn 1856 gorfododd y llywodraeth i bob sir sefydlu Lluoedd Heddlu iawn gydag Arolygwyr, Rhingyll a Chwnstabliaid yr Heddlu. Ym mis Ionawr 1857 penodwyd Prif Gwnstabl i redeg Lluoedd Heddlu Sir Frycheiniog, sef yr enw ar y lluoedd newydd. Fe welwch chi gofnod o swyddogion yr heddlu a leolwyd yn Ystradgynlais nesaf |
deiseb – cais wedi’i arwyddo gan lawer o bobl, a’i gyflwyno i’r senedd neu rywun mewn awdurdod | |
"..at
Ystradgynlais one Sergeant and one Constable..." Adeiladwyd Gorsaf Heddlu a Llys Ynadon newydd yn Ystradgynlais ar gyfer yr heddlu newydd ar lannau Afon Tawe ger Rhestr yr Odyddion. |
||