Ystradgynlais
Bywyd ysgol
  Damwain ofnadwy yn 1883
Geirfa
 

Mae’r darn yma o ddyddiadur ysgol Ynysgedwyn yn 1883 yn adrodd hanes damwain drist iawn a ddigwyddodd i ferch fach ar ei ffordd adref o’r ysgol i gael cinio wrth iddi groesi llinell y rheilffordd.
Mewn ardaloedd diwydiannol fel yng Nghwm Tawe Uchaf lle’r oedd yna lawer o linellau rheilffordd lleol i gludo glo a nwyddau eraill, fe fyddai llawer o blant yn gorfod croesi’r rheilffordd yn aml ar eu ffordd i’r ysgol.

Amputated - torri i ffwrdd
 
 
  Archifdy Sir Powys
 

Mae’r darn trist yma o’r dyddiadur yn darllen:
"As Maggie Elizabeth Thomas, a Second Standard [class] girl, was going home to dinner today over the railway, two wheels of a loaded waggon went over one of her legs. She was immediately taken home to the Gurnos and the injured limb was amputated by Dr Thomas, Ystalyfera".

Yn fwy na thebyg roedd Maggie mewn poen ofnadwy wrth iddynt lifo ei choes i ffwrdd, achos yn ystod oes Fictoria roedd llawer o lawdriniaethau fel hyn yn cael eu gwneud heb unrhyw beth i ladd poen nac anesthetig. (Mae anesthetig yn cael ei ddefnyddio mewn ysbytai heddiw er mwyn eich rhoi i gysgu cyn cael llawdriniaeth fel nad ydych yn teimlo unrhyw boen o gwbl.)

Ysgrifennodd yr athro ddeuddydd wedyn ei fod yn methu stopio’r plant rhag croesi’r rheilffordd cyn hynny, ond wedi i hyn ddigwydd roeddynt i gyd yn mynd y ffordd hir ac yn cerdded ar hyd y ffordd. (Mae yna map yn dangos y peryglon ger yr ysgol ar un o’r tudalennau sydd i ddod.) Ond digwyddodd damwain ofnadwy arall i ferch fach arall saith mlynedd wedyn...

Damwain reilffordd ddifrifol arall…

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais