Ystradgynlais
Trosedd a chosb
  Gadael gwasanaeth yn y gwaith haearn
Geirfa
 

Mae achos o 1824 yn cofnodi beth ddigwyddodd pan wnaeth unigolyn benderfynu fod ei waith yn rhy galed. Er i hyn ddigwydd cyn i’r Frenhines Fictoria ddod i’r orsedd, roedd achosion fel hyn yn digwydd yn ddiweddarach ac mae’n dweud wrthym yn union pa mor wahanol oedd bywyd ar ddechrau’r 19eg ganrif.
Heddiw os yw rhywun yn casáu ei waith mae’n weddol hawdd i adael a chwilio am waith arall. Pe baech yn gadael eich gwaith ar ddechrau’r 19eg ganrif wedi i chi gytuno i weithio i’ch cyflogwr fe allai’r cyflogwr yna fynd i chwilio amdanoch pe baech yn gadael a dod â chi o flaen llys.

gordd – morthwyl mawr trwm y mae’n rhaid defnyddio dwy law i’w godi i dorri cerrig neu fwrw pystion
 
 
 
 

Mae’r hanes rydych newydd ei ddarllen yn dangos beth ddigwyddodd pan gafodd George Jones ddigon ar yr amodau caled yng Ngwaith Haearn Ynysgedwyn. (Er mwyn cael gwybod mwy am y gwaith ewch i’r tudalennau ar Hanes Haearn)

Cafodd George Jones ei ddal ac fe’i ddedfrydwyd i ddau fis o lafur caled yng Ngharchar Aberhonddu. Yn fwy na thebyg y llafur caled fyddai torri creigiau gyda gordd.
.

 
 

Yn ôl i ddewislen trosedd Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais