Ystradgynlais
Mwyngloddio am lo yn yr oes Fictoriaidd
  Glo carreg i’r gweithfeydd haearn
 

Roedd y dulliau newydd o wneud haearn yn llwyddiant, ac erbyn yr 1840’au a’r 1850’au roedd gan Weithfeydd haearn Ynysgedwyn, Abercraf ac Ystalyfera byllau glo eu hunain. Roedd hyn er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn medru rheoli cyflenwadau eu hunain o lo carreg oedd o ansawdd da.

 
  Gweithfeydd haearn YnysgedwynGweithfeydd haearn Ynsgedwyn
 

Ond doedd llwyddiant y diwydiant gwneud haearn ddim i barhau, achos y gystadleuaeth oddi wrth ddur rhatach gan ffatrïoedd mawr oedd yn cynhyrchu dur ar hyd arfordir de Cymru. map 1877Daeth cynhyrchu haearn i ben yn Ynysgedwyn yn 1876 gan barhau dim ond deng mlynedd yn fwy yn Ystalyfera. Mae mwy am hyn ar y tudalennau diwydiant haearn.

Er roedd y gwneuthurwyr haearn yn farchnad bwysig iawn i’r glo, ni gaeodd y pyllau glo o achos cau’r gweithfeydd haearn. Roedd blynyddoedd mwyaf llewyrchus y diwydiant glo eto i ddod.
.

 
 

Yn ôl i ddewislen glo Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais