Ystradgynlais
Bywyd ysgol
Y cynhaeaf gwair a phigo mwyar duon | ||
Mae sôn am hanesion cyfarwydd iawn a geir mewn dyddiadur ysgolion cefn gwlad yma. Roedd athrawon fel arfer yn ceisio trefnu bod gwyliau ysgol yn digwydd ar yr un amser â’r cynhaeaf gwair achos fe fyddai gymaint o’r bechgyn yn absennol achos eu bod yn helpu ar y fferm. |
||
Archifdy Sir Powys |
Dyma hanes
Ysgol Coelbren ym mis Gorffennaf 1895: "I recommence school and find that a large number are absent owing to hay-making". |
Archifdy Sir Powys |
Dyma
ddarn o Ysgol Ynysgedwyn yn 1899
ac mae’n darllen: Roedd ysgolion yn aml iawn yn gorfod
cau achos ychydig iawn o blant fyddai’n
dod i’r ysgol pan fyddai digwyddiadau lleol fel hyn yn cael eu cynnal!
Ond mae’n dda gweld bod plant yr oes yn cael amser da weithiau ar ôl clywed
am y bywyd caled yr oeddynt yn ei ddioddef ! |
||