Ystradgynlais
Bywyd ysgol
  Tywydd ofnadwy
 

Roedd y tywydd yn aml iawn yn cael effaith ar faint o blant oedd yn mynd i’r ysgol yn ystod oes Fictoria. Roedd llawer ohonynt yn gorfod cerdded yn bell i’r ysgol, ac roedd y plant hynny o deuluoedd tlawd yn methu â thalu am esgidiau oedd yn ddigon da i gerdded ar hyd tir anodd pan oedd y tywydd yn wael.

 
  Archifdy sir Powys
 

Ysgrifennwyd hwn yn nyddiadur Ysgol Coelbren yn Ionawr 1895: "Having made up my average for the week, I found that it only came to 41. The reason for this is that the weather is very bad, and the children are obliged to come a long way".

Mae hanes arall o ysgol Coelbren yn 1896 yn dweud:
"I find that my attendance has been bad owing to the weather and washing and shearing sheep".
Nid yn y gaeaf mae cneifio defaid – ond roedd hyn ym mis Mehefin ! Ond o adnabod Cymru, mae’n ddigon posib y gallai’r tywydd rhwystro’r plant rhag mynd i’r ysgol.
.

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais