Ystradgynlais
Cludiant
  Tramffordd Fforest Aberhonddu  
 

Wrth deithio i fyny cwm Tawe mae'r tir yn mynd yn fwy serth a mynyddig. Er mwyn teithio i Bont Senni mae'n rhaid croesi'r mynydd mawr a elwir yn Fforest Fawr Aberhonddu. Ffotograff  o'r Fforest FawrNid fforest yw hon tebyg i un rydym ni yn gyfarwydd â hi ond ardal agored a ddefnyddiwyd un tro ar gyfer hela. Tir comin oedd y tir agored yma ac roedd y bobl leol yn medru pori'u defaid yno. Yn 1817 caewyd yr ardal yma gan ei rannu'n gaeau a daeth darnau mawrion ohono'n eiddo i Mr John Christie, dyn busnes o Lundain. Yn 1820 symudodd i Aberhonddu a dechreuodd roi ei gynlluniau uchelgeisiol oedd ganddo ar gyfer yr ardal ar waith.

 
 

Gwelodd fod gan Gwm Tawe i'r de fwyn haearn, glo a charreg galch, ai fod e’n berchen chwarel carreg galch ym Mhenwyllt ac fe’ i datblygodd. Roedd yn meddwl y byddai’n medru gwneud ei odynau calch eu hunan ym Mhenwyllt trwy ddefnyddio’r carreg galch o’i chwarelu. Yna byddai’n medru ei werthu i'r gweithfeydd haearn yn y cwm. (Edrychwch ar y tudalennau ar Hanes Smeltio Haearn).

Roedd hefyd yn meddwl y byddai'r calch yn medru cael ei ddefnyddio i'w ledaenu ar yr ucheldir er mwyn troi tir gwyllt mynyddig yn dir amaethyddol cynhyrchiol. Er mwyn cludo'r calch i'r ffermydd mynyddig a'r gweithfeydd haearn adeiladodd rhwydwaith dramffordd o'r enw Tramffordd Fforest Aberhonddu.

 

Gallwch weld y rhwydwaith yma o dramffyrdd ar y map. Roedd yn ymestyn o Bont Senni yr holl ffordd dros y mynydd ac i lawr i Ystradgynlais gyda sawl cangen.

Mwy am Dramffordd Fforest Aberhonddu..

 
 

Yn ôl i ddewislen cludiant Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais