Ystradgynlais
Bywyd ysgol
  Nid ydynt yn deall Saesneg!
 

Mae’r darn yma o ddyddiadur ysgol Coelbren yn 1895 yn rhoi rhyw syniad i ni o’r problemau yr oedd rhai athrawon yn gorfod eu wynebu pan fyddent yn dechrau dysgu yn ysgolion Cymru yn ystod oes Fictoria.
Dim ond Saesneg yr oedd rhai athrawon yn gallu siarad a dim ond Cymraeg yr oedd llawer o blant yn siarad !

 
  Archifdy Sir Powys
 

Mae’r darn yma yn darllen:
"I am obliged to give up the idea of teaching my infants Object lessons, being that they do not understand any English, therefore they do not know what I am saying when I speak to them. I shall try a little later on".

Mae bob amser yn help pan yn yr ysgol os yw’r plant yn deall beth mae’r athro yn ei ddweud, beth i chi’n feddwl ?
Roedd ‘gwersi gwrthrych’ yn cael eu dysgu ym mhob ysgol Fictoraidd, ac roedd gan athrawon restrau o bethau i siarad amdanynt. Mae enghraifft o hyn i’w chael ar y dudalen nesaf…

Llewod, gwsberis a gorsafoedd rheilffyrdd…

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais