Ystradgynlais
Bywyd ysgol
  Gwersi am lewod a phensiliau plwm
 

Mae pob Llyfr Cofnod o ysgolion Fictoraidd yn cynnwys rhestr o bynciau a oedd yn rhaid i athrawon siarad amdanynt yn y dosbarth, dyma oedd y 'Gwersi Gwrthrych'.
Roedd y rhain yn cynnwys pob math o bethau arferol bob dydd "Diwrnod Golchi" a phethau mwy anarferol fel "Ceirw". Roedd gan athrawon flychau o gardiau lliw gyda darluniau o’r ‘gwrthrychau’, ac yn wir fe fyddai rhai ohonynt yn rhyfedd iawn i blant Cymru yn y dyddiau cyn teledu !

 
  Archifdy Sir Powys
 

Mae’r enghraifft yma o ddyddiadur Ysgol Coelbren yn 1896:
"Object Lessons for Standards I, II, III. [dosbarthiadau 1 - 3]
birds engravingLion, Reindeer, Birds, Wheat, Cotton Plant, Silver, Sun, Post Office, Rain, Matches, Snow, Silk, House Building, Knife, Paper, Gooseberry, A Railway Station, Washing Day, The Sea, and Lead Pencil".

Yn fwy na thebyg roedd y plant yn gwybod llawer iawn mwy am 'Law' ac ‘Eira' na ‘Phlanhigion Cotwm' !
.

Cerfiad o aderyn
 

Ewch i ddewislen ysgolion Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais