Ystradgynlais
Bywyd ysgol
  Dyddiau tywyll y gaeaf  
 

Mae yna lawer o sôn yn llyfrau cofnod ysgolion Fictoraidd am ba mor galed oedd bywyd i bawb bron, gan gynnwys plant ysgol, yr adeg hynny.
Mae’r darn yma o Lyfr Cofnod Ysgol Fwrdd Ynysgedwyn yn dangos doedd gan lawer o ysgolion ddim golau o gwbl, ar wahân i’r golau dydd a oedd yn dod trwy’r ffenestri. Ychydig iawn o olau oedd yno yn ystod dyddiau tywyll y gaeaf yng Nghymru!

Ysgrifennwyd y darn nesaf ym mis Rhagfyr, 1876, ac mae’n darllen: "Owing to the shortness of the days and the absence of illuminating facilities I have determined to open school at 1.30 pm and close at 4 pm thus securing as much daylight as possible".

Reading in the dark
Llyfr? Pa lyfr?
  School log book entryArchifdy Sir Powys

 

Mae’r geiriau "absence of illuminating facilities" yn ffordd hen ffasiwn o ddweud nad oedd ganddynt oleuadau artiffisial. Efallai y byddai llawer o blant heddiw yn hoffi’r syniad o fod yn ysgol dim ond pan fo digon o olau, ond beth am gael dim gwres, a gorfod cerdded milltiroedd i’r ysgol yn y glaw!

Mwy am fywyd mewn ysgolion Fictoraidd..

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais