Ystradgynlais
Bywyd ysgol
| Eira tu allan ac oer y tu mewn | ||
|
Dychmygwch orfod mynd i’r ysgol,
efallai ar ôl cerdded sawl milltir
yn y glaw neu’r eira, ac yna eistedd yn y gwersi mewn dillad gwlyb ac
mewn ystafell ddosbarth sydd heb unrhyw wres
o gwbl! |
Archifdy
Sir Powys |
|
Mae dyddiadur llawer o ysgolion sirol
yn ystod cyfnod Fictoria yn adrodd yr un hanes o ddosbarthiadau oer
a gwlyb, ac weithiau roedd ganddynt stôf oedd yn gweithio ond
dim glo na choed i roi ar y tân!
|
||