Ystradgynlais
Mwyngloddio am lo yn yr oes Fictoriaidd
  Gweithio lawr y pwll – 7 oed !
 

Yn ystod blynyddoedd cynnar oes Fictoria roedd llawer o fechgyn ifanc yn gorfod gweithio yn y pyllau glo o dan amgylchiadau ofnadwy er mwyn ennill digon i fyw. Victorian miner and child
Yn 1842 roedd bechgyn mor ifanc â saith oed yn gweithio yn y pyllau glo o amgylch Ystradgynlais a llawer o lefydd eraill ym Mhrydain. Ar y dudalen nesaf gallwch weld beth ddigwyddodd i hyd yn oed plant ifancach na saith oed oedd yn gweithio mewn pwll glo lleol.

Roedd y plant yma yn treulio hyd at ddeg awr o dan ddaear bob dydd, yn llanw ceirt gyda glo oedd yn cael ei gloddio gan y glowyr gan wahanu’r gwastraff o’r glo, dim ond y glo oedd yn cael ei anfon lan i’r wyneb.
Yna roedd y ceirt oedd wedi’u llwytho yn cael eu tynnu neu eu gwthio i fyny twnneli cul i brif wythien y pwll.

Ychydig iawn o heulwen oedd y plant hyn, fel y glowyr yr oeddynt yn gweithio gyda yn ei weld a dim ond ar ddydd Sul yr oeddynt yn cael gorffwys. Dim ond ychydig geiniogau’r dydd yr oeddynt yn ei dderbyn am eu gwaith.

 
  Roedd y gwaith hefyd yn beryglus iawn gan nad oedd yna reolau diogelwch y dyddiau hynny ac roedd llawer o anafiadau difrifol a marwolaethau. Mae sôn am rai o’r rhain yn y dyddiaduron oedd yn cael eu cadw gan yr ysgolion lleol. Wnaeth y tamprwydd, llwch glo a’r gwaith caled ddifetha iechyd llawer o’r rheini oedd yn gweithio yn y pyllau glo.
.
 
 

Yn ôl i ddewislen glo Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais