Ystradgynlais
Mwyngloddio am lo yn yr oes Fictoriaidd
  Plentyn ifanc yn cael ei ladd mewn pwll glo
 

Ymhlith hen gofnodion Sesiynau Chwarter Sir Frycheiniog mae ceisiadau am gostau treulio a anfonwyd i’r llys gan grwneriaid, sef swyddogion oedd yn archwilio i achosion o farwolaethau damweiniol.

Mae’r enghraifft yma yn 1843 yn dangos bachgen bach dim ond pedair a hanner oed a laddwyd mewn ‘pwll glo’ yng Nghwmtwrch.

 
  Archifdy Sir Powys
 

Mae’r ddogfen hon dyddiedig 5ed Ionawr 1843 yn darllen:
"To Henry Maybery, Coroner
5th - Inquest on the Body of a child named William Butler 4 and a half years old who was killed in a Coal Pit by a large piece of coal falling upon him at Cwmtwrch in Ystradgynlais...."

Roedd y plentyn hwn yn fwy na thebyg gyda’i dad ar y pryd. Fe fyddai’r glowr yn cael ei dalu yn ôl faint o lo oedd yn ei gloddio. Byddai llawer o lowyr yn dod â’u plant i mewn i’r pwll i’w helpu i lwytho a gwahanu’r glo, er mwyn ennill mwy o arian i’r teulu.

 
 

Yn ôl i ddewislen glo Ystradgynlais

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Ystradgynlais