Talgarth a'r cylch
Cludiant
  Rheilffordd heb unrhyw injans  

Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r gamlas rhwng Brycheiniog a’r Fenni ym 1794, a chyrhaeddodd Aberhonddu ar ddiwedd mis Rhagfyr 1800.
Cyn i’r gamlas newydd agor hyd yn oed, roedd tirfeddianwyr a masnachwyr lleol yn cynllunio llwybrau cludiant newydd i gysylltu glanfa’r gamlas yn Aberhonddu gyda Swydd Henffordd a Sir Faesyfed i’r gogledd ddwyrain.

Tramway in use

Llwybr
Tramffordd
y Gelli o
Aberhonddu
i’r Gelli

Y llinell ddotiog las ar y chwith yng ngwaelod
y llun sy’n
dynodi Camlas Brycheiniog
a’r Fenni

Map of tramroad route
Yn y 1800au cynnar, y prif angen oedd am y dull rhataf posibl o symud llawer o nwyddau swmpus a thrwm megis glo, haearn, carreg galch, grawn a choed.
Roedd y camlesi yn gallu gwneud hyn yn effeithiol, ond roeddynt yn ddrud iawn ac yn cymryd amser hir i’w hadeiladu.
Roedd y rhan fwyaf o’r ffyrdd mewn cyflwr gwael, a doedd ceffylau ddim yn gallu tynnu wagenni trymion ar hyd lwybrau llawn tyllau neu fwdlyd iawn. Roedd yn rhaid defnyddio ceffylau pwn gyda llwythau gweddol ysgafn ar nifer o’r llwybrau masnach.
 

Ar yr adeg yma, roedd pobl yn defnyddio’r afon Gwy i gludo glo o Fforest y Ddena yn Swydd Gaerloyw i orllewin Swydd Henffordd. Ond yr unig adeg roedd yn bosibl defnyddio cychod llawn oedd pan fyddai’r Gwy yn gorlifo.
Am ychydig, bu pobl yn ystyried adeiladu camlas newydd rhwng Aberhonddu a Whitney-on-Wye yn Swydd Henffordd. Ond yn y diwedd cytunwyd i adeiladu’r dramffordd ac aethant ati i gael yr arian i’w hadeiladu, oherwydd fod y math hyn o reilffordd yn llawer rhatach ac yn gyflymach.
Mae mwy o wybodaeth ar sut roedd y dramffordd yn gweithio ar y dudalen nesaf...

Mwy o wybodaeth am y rheilffordd oedd yn
defnyddio pwer ceffylau...

.

Mae mwy o wybodaeth ar Dramffordd y Gelli yn y tudalennau ar
y Gelli.