Talgarth a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
  Talgarth yn 1841  
 

Mae’r map a welwch chi yma yn seiliedig ar ran o fap y degwm ar gyfer plwyf Talgarth ac mae’n rhoi syniad da i ni o sut yr oedd y dref yn edrych ar ddechrau blynyddoedd cynnar teyrnasiad y Frenhines Fictoria.
Gallwn weld fod y dref bryd yma’n gymuned llewyrchus gyda strydoedd a siopau.

 


MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bron iawn bawb dalu’r degwm i Eglwys Lloegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau er mwyn gweld pwy oedd yn berchen ar ba eiddo.

 

 

1. Ar fryn i’r Dwyrain o ganol y dref mae eglwys y Santes Gwendoline a’i mynwent.

 
  2. Heb fod ymhell o’r eglwys y mae’r Capel Methodist yn sefyll.  
  3. Ar ymylon Deheuol y dref y mae’r Capel Cynulleidfaol. Roedd y ddau gapel hyma’n caniatau i bobl leol addoli mewn cymunedau bychain yr oeddynt hwy eu hunain wedi’u sefydlu.  
 

4. Mae’r dramffordd yn rhedeg ar hyd ymyl Gorllewinol y dref. Roedd y rheilffordd gynnar hon oedd yn defnyddio ceffylau’n bwysig ar gyfer masnach ac amaeth lleol. (Edrychwch ar y tudalennau ar Gludiant am fwy o fanylion).

Cymharwch gyda’r map o Talgarth yn 1887...

 
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Talgarth