Talgarth a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
  Talgarth yn 1887  
 

Mae’r map a welwch chi yma yn rhan o fap ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1887. Er bod y dref yn edrych yn debyg iawn i fel ag yr oedd yn 1841 mae rhai newidiadau wedi digwydd yn ystod teyrnasiad Fictoria.
Mae’r rheini a luniodd y mapiau wedi nodi’r perllannau oedd o gwmpas y dref bryd hynny. Mae’n rhaid fod y bobl leol yn hoff iawn o’u seidr !

 
 
 

Un newid mawr a ddaeth i Dalgarth oedd dyfodiad y rheilffordd. Gallwch weld ei bod yn dilyn yr un ffordd â’r hen dramffordd. Ond y tro yma roedd teithwyr yn ogystal â nwyddau yn cael eu cludo ac roedd y rheilffordd hon yn cysylltu gyda llawer o rai eraill gan wneud teithio ar draws Prydain yn llawer haws.

 
 

Trwy gymharu’r map yma gyda map 1841 gallwch weld fod tai newydd wedi’u hadeiladu ers blynyddoedd cynnar teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Mae gan lawer ohonynt erddi hir yn y cefn. Faint o adeiladau newydd y gallwch chi eu gweld?

 
  Cymharwch gyda’r map o Talgarth yn 1841...  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Talgarth