![]() |
![]() |
||||||||||
|
|||||||||||
Talgarth
a'r cylch Mapiau Fictoriaidd |
Llangasty Talyllyn yn 1841 | ||
Mae’r map a welwch chi yma yn seiliedig ar fap y degwm ar gyfer plwyf Llangasty Talyllyn ac mae’n rhoi syniad da i ni o sut yr oedd y pentref yn edrych ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria. |
|
![]() |
Nid yw’r map gwreiddiol wedi’i roi mewn llinell â’r Gogledd felly rydym wedi troi’r map er mwyn ei gwneud yn haws i’w cymharu â mapiau diweddarach. |
1. Mae’r ty mawr sydd wedi’i nodi yma fel "Great House" yn cael ei adnabod gyda’i enw Cymraeg Ty Mawr. Ar yr adeg y cafodd y map yma ei wneud roedd Rees Perrott yn byw yma gyda’i deulu a 5 o weision. | ||
2. Yn y Llan bryd hynny roedd John Williams a’i wraig a 4 o weision yn byw yno. | ||
3. Yn Treberfedd House (wedi’i nodi yma fel "Treberfedd Villa") bryd hynny, roedd Joseph Cooper, James Freeman, a Frederick Evans yn byw yno. Mae Cyfrifiad 1841 yn eu rhestru i gyd fel "Independent". Roedd hyn yn golygu nad oedd yn rhaid iddynt ddal swydd i ennill bywoliaeth ond roedd ganddynt gyfoeth eu hunain i fyw arno gyda 4 o weision a chiper i ofalu amdanynt. |
||
Gweithwyr fferm oedd rhan fwyaf o’r boblogaeth leol yn gweithio ar y ffermydd yma a ffermydd eraill, roedd yna 3 saer hefyd yn brysur yn yr ardal. | ||
Cymharwch gyda’r map o Langasty yn 1887... |
Yn ôl i ddewislen mapiau Talgarth
|
||