Talgarth a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
  Llangasty Talyllyn yn 1887  
 

Mae’r map a welwch chi yma yn rhan o fap ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1887.
Er bod y gymuned yn edrych yn debyg iawn i fel ag yr oedd yn 1841 fe fu yna rai newidiadau yn ystod teyrnasiad Fictoria.

 
 
  1. Mae yna ysgol nawr i bob un o’r plant lleol. Roedd hyn yn golygu fod pob plentyn yn cael addysg a fyddai’n rhoi cyfle gwell iddynt yn y dyfodo. Roedd yn well i’r plant fynd i’r ysgol na dechrau gweithio pan dal yn blentyn. (Edrychwch ar y tudalennau am fywyd ysgol)  
  2. Mae rheithordy newydd dymunol wedi’i adeiladu ar gyfer y clerigwr lleol sy’n gyfrifol am y plwyf.  
 

3. Mae’r tir o amgylch y ty crand, Treberfedd wedi’i ddatblygu ymhellach gyda lawntiau a choed a pharciau.

Cymharwch gyda’r map o Langasty yn 1841...

 
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Talgarth