Talgarth a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
  Bronllys yn 1839  
 

Mae’r map a welwch chi yma yn seiliedig ar fap y degwm ar gyfer plwyf Bronllys ac mae’n rhoi syniad da i ni o sut yr oedd y pentref yn edrych dim ond dwy flynedd i mewn i deyrnasiad y Frenhines Fictoria.

 


MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bron iawn bawb dalu’r degwm i Eglwys Lloegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau er mwyn gweld pwy oedd yn berchen ar ba eiddo.

 

  Roedd y patrwm canoloesol mewn perthynas â lle yr oedd pobl yn byw yn cynnwys ffermydd a bythynnod gwasgaredig. Roedd hi’n oes Fictoria cyn i lawer o’r pentrefi ddechrau datblygu ym Mhowys. Serch hynny gallwn weld hen bentref sydd wedi tyfu yn agos at y groesffordd wrth ymyl cadarnle Castell Bronllys.  
  Ym mhen chwith uchaf y map gallwch weld stribedi o hen gae ‘comin' hynafol sy’n cael ei ddefnyddio o hyd ym Mronllys. Er mwyn cael gwybod mwy am y system hon yn yr ardal edrychwch ar dudalennau cae comin Cole Brook.  
 

Yn ‘Marish‘ tua’r amser yma roedd Benjamin Price (70) yn byw gyda’i deulu a’i weision, tra roedd sawl teulu’n byw yn Coldbrook (neu Cole brook) oedd yn deuluoedd dosbarth gweithiol gan gynnwys y groser Walter Meredith, a Roger Davies oedd yn grydd yno.
Roedd gan y pentref hefyd 3 saer maen, 2 deiliwr a saer.

Cymharwch gyda’r map o Bronllys yn 1887...

 
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Talgarth