Talgarth
a'r cylch Mae’r llun a welwch chi yma yn seiliedig
ar fap yr Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd
yn 1887 ar raddfa 25
milltir = 1 fodfedd. Oherwydd
bod y map ar raddfa fawr roedd gwneuthurwyr y map yn gallu rhoi llawer
o fanylion arno. Gallwn weld ar un cip fod y tir comin
gyda’i stribedi oedd i’w gweld y tu ôl i’r Neuadd ar fap y degwm wedi’i
amgau. Er bod hyn yn golygu fod y
tir yn fwy cynhyrchiol, roedd hefyd yn golygu nad oedd pobl dlawd y pentref
bellach yn gallu defnyddio’r tir ar gyfer pori. Roedd yna ysgol ym Mronllys yn 1839
ond mae’r map yma’n dangos ysgol newydd
wrth ymyl yr eglwys. Erbyn yr amser yma roedd pob plentyn lleol yn cael
addysg, p’un ai oeddynt yn ei fwynhau ai peidio roedd hyn yn well na gweithio
oriau hir ar y tir ! Yn ôl i ddewislen
mapiau Talgarth
Mapiau
Fictoriaidd
Bronllys
yn 1887
Gallwn weld yma nad yw siâp y pentref ar y cyfan wedi newid llawer er
bod yna newidiadau wedi bod i fywydau’r bobl.
(Edrychwch ar y tudalennau ar ysgolion).