Rhaeadr
Gofalu am y tlawd
  Tloty newydd i Undeb Rhaeadr  
 

Roedd y dynion oedd yn rhedeg yr Undeb yn amharod iawn i adeiladu tloty.
Roedd gofyn iddynt o dan y gyfraith i adeiladu un pan gafodd yr Undeb ei sefydlu yn 1836, ond bu’n rhaid aros tan 1873 hyd nes iddynt fynd ati a phrynu safle ar gyfer tloty newydd. Mae’r darn o’r cofnodion a welwch chi yma yn sôn wrthym lle oedd y safle.

 
  entry from Rhayader Union records
Mae'n darllen -
"Site for the workhouse - two acres of land of the Gigrin Meadows, near Rhayader at the rate of £150 per acre including a certain outbuilding on the said lands."
Gofynnodd yr Undeb i Stephen William Williams (de) i wneud gwaith y pensaer. Roedd ganddo swyddfeydd yn Rhaeadr ac roedd pawb lleol yn ei adnabod.
Roedd yn gyfrifol am adeiladu llawer o adeiladau eraill yn Sir Faesyfed gan gymryd rhan wrth ddatblygu tref newydd Llandrindod.
 

Mae’r map Fictoraidd uchod yn dangos y tloty newydd wrth ymyl y brif ffordd i mewn i Raeadr.

Yn ôl i ddewislen Gofalu am y tlawd
.
.