Rhaeadr
Trosedd a chosb
  Trawsgludo ar draws y moroedd  
 

Ym mis Medi 1847, daeth dau ddyn o Rhaeadr o flaen y llysoedd yn Llanandras. William Grant a David Moore oeddynt, ac fe’u cyhuddwyd o ddwyn pwrs oedd â mwy nag £20 ynddo oddi wrth Edward Lewis.
Yn 1847 roedd hyn yn gymaint ag yr oedd rhai o’r gweithwyr tlotaf yn ei ennill mewn cyfnod o fisoedd lawer.
Dau o weithwyr anllythrennog, a oedd yn fwy na thebyg yn gweld y llys braidd yn ddychrynllyd. Fe blediodd y ddau yn euog i’r trosedd, ac yn fwy na thebyg roeddynt yn disgwyl cosb lem. Mae cofnodion y llys yn dangos y ddedfryd.

 
  Extract from court records
 

The entry reads :
"That the said William Grant and David Moore be transported to such place beyond the seas as Her Majesty with the advice of Her Privy Council shall direct for the term of ten years."

Mae’r iaith gyfreithiol hon yn golygu fod ymgynghorwyr y Frenhines yn gallu penderfynu lle yr oeddynt i fynd. Ar yr adeg yma roedd carcharorion yn cael eu hanfon i drefedigaethau cosb yn Awstralia, lle y byddent yn cael eu gorfodi i weithio yn y caeau o dan warchodaeth.
Yma, byddent yn cael eu chwipio a’u gorfodi i weithio ar y felin droed os nad oeddynt yn ymddwyn. Wedi deng mlynedd byddai William Grant a David Moore wedi’u gollwng yn rhydd heb unrhyw fodd o ddychwelyd yn ôl i Gymru.

transported across the sea
 

Ewch i ddewislen Rhaeadr

.