Rhaeadr
Gofalu am y tlawd
  Meistr a Matron ar gyfer y tloty newydd  
 

Llwyddodd Undeb Rhaeadr i gael yr awdurdodau i’w gadael nhw i adeiladu tloty llai ar gyfer dim ond 40 o drigolion, gan honni mai poblogaeth fechan oedd yn Rhaeadr, ac nad oedd angen adeilad mawr.

 
Roedd angen Meistr a Matron i redeg y tloty. Roedd yn arferol i ddewis pâr priod.
Roedd trigolion y tloty yn cael eu cadw ar wahân, y dynion mewn un rhan o’r adeilad a’r merched a’r plant yn y llall. Y Meistr oedd yn gofalu am ochr y dynion a byddai’r Matron yn gofalu am y merched a’r plant.
Ffotograff trwy ganiatâd caredig Mr Winston Collins
Penodwyd gwr a gwraig o Sant Harmon i fod yn Feistr a Matron gan yr Undeb, ond camodd yr awdurdodau yn Llundain i mewn a mynnu dewis pâr oedd â phrofiad o redeg tloty.
Gan nad oedd gan un o’r dynion oedd yn rhedeg yr Undeb unrhyw brofiad chwaith, roedd hyn yn syniad da yn fwy na thebyg !
Yn y pendraw penodwyd pâr o’r enw Mr a Mrs Rose.
Rhayader workhouse staff
 

Nid oes gennym unrhyw ffotograffau ohonynt, ond mae’r ffotograff a welwch chi yma yn dangos y Meistr a’r Matron gydag un o’r trigolion ychydig wedi oes Fictoria.

Yn ôl i ddewislen Gofalu am y tlawd
.
.