Rhaeadr O’r diwedd roedd trefniadau’r tloty
newydd wedi’u cwblhau. Ym mis Awst 1879
daeth y system o gymorth allanol i ben i
nifer o dlodion, ac fe’u gorfodwyd i adael eu cartrefi a mynd i’r tloty. Y trigolion cyntaf yma oedd -
Gofalu am y tlawd
Y
trigolion cyntaf
Cyn gynted ag yr oeddynt yn cyrraedd yno roeddynt yn colli cysylltiad
gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau, ac roeddynt o dan glo tan eu bod yn gallu
cynnal eu hunain.
Treuliodd llawero bobl hyn flynyddoedd olaf eu
bywydau yn y tloty. Cafodd hen barau oedd efallai wedi byw
gyda’i gilydd am hanner can mlynedd eu gwahanu !
Mae’r rhestr a welwch chi yma yn cofnodi’r trigolion cyntaf a aeth i’r
tloty ac o lle y daethant.
"John Cleaton (no family) of Llanyre; Elizabeth
Williams (and 3 children) of Abbey Cwmhir; Margaret Lewis (and 1 child)
of Rhayader; Edward Hughes (no family), Margaret Jane Lewis (& 2 children),
Margaret Meredith (and 1 child), Sarah Lewis (and 1 child), Elizabeth
Wilding (and 4 children), Elizabeth Lewis (and 2 children) all of Saint
Harmon; Thomas Weale (no family) of Llanyre; Mary Owen (at present in
Knighton workhouse) of Nantmel".
Mae’n rhaid ei bod yn
newid ofnadwy i fywydau pob un ohonynt, yn enwedig y plant
anffodus hynny.