Rhaeadr
Gofalu am y tlawd
  Iechyd y tlawd  
 

Yn ystod oes Fictoria doedd yna ddim Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, a chyfrifoldeb Undeb Rhaeadr oedd tlodion sâl nad oedd yn gallu fforddio talu am feddyg.
Mae cofnodion yr Undeb yn dangos y triniaethau a roddwyd gan Swyddog Meddygol yr Undeb (tebyg i’r un ar y dde). Mae’r rhain yn sôn yn bennaf am esgyrn yn torri, cymalau wedi ysigo a’r dwymyn. Bryd hynny doedd yna ddim i wella llawer o afiechydon mewn cyfnod o feddyginiaeth mwy cyntefig.
Roedd pobl dlawd oedd yn gorfod byw mewn tai llaith a budr ac ar ddiet gwael yn aml iawn yn cael eu heffeithio’n wael gan afiechydon megis y frech goch a ffliw, nad ydynt mor ddifrifol heddiw. Nid oedd cyffuriau modern fel gwrthfiotigau ar gael yn ystod oes Fictoria.

Sech hynny roedd yna ddatblygiadau mewn meddyginiaethau, fel ag y mae cofnodion Undeb Rhaeadr ar gyfer 1847 yn dangos. Mae’n cofnodi fod yr Undeb wedi trefnu a thalu am driniaethau newydd !

Medical Officer
 
 

Mae’n sôn am sut wnaeth yr Undeb drefnu "for the vaccination of all persons resident in the Union at one shilling for each case".

Er nad yw’r darn yn cofnodi’r afiechyd a frechwyd yn ei erbyn, mae’n debyg mai’r frech wen ydoedd, afiechyd oedd yn arfer lladd llawer o bobl dlawd neu’n eu gadael wedi’u hanharddu.

Yn ôl i ddewislen Gofalu am y tlawd
.
.