Rhaeadr
Gofalu am y tlawd
  Cymorth y tlodion i deulu Hamer  
 

Er nad oedd gan Undeb Rhaeadr dloty ar y cychwyn, nid oedd hyn yn golygu fod y tlawd yn yr ardal yn gyfforddus eu byd. Pan aeth teulu Hamer o Raeadr i drafferthion, rhoddwyd dim ond 4/6d (tua 23c) yr wythnos iddynt. Serch hynny, yn Ionawr 1837, cyflwynwyd beirniadaeth lem gan yr Undeb a newidiodd bethau er gwaeth i’r teulu. Mae’r darn yma o gofnodion Undeb Rhaeadr yn esbonio’r hyn a ddigwyddodd.

 
 
 

Mae’r darn yn darllen -
"In his house over and above what appears necessary: Two tables worth about 15/- [75p]. One cross saw worth about 5/- [25p] Poor family at hometogether with sundry other articles. It was then ordered that the sum of 4/6 a week be heretofore allowed be discontinued untill the said goods be disposed of and the proceeds properly applied".

Roedd hyn yn golygu fod yr holl help a roddwyd i deulu John Hamer wedi dod i ben hyd nes y byddai’n gwerthu yr eiddo canlynol. Yn fwy na thebyg roedd y ty yn eithaf gwag erbyn yr amser y cafodd cymorth ei dalu i’r teulu eto !

Yn ôl i ddewislen Gofalu am y tlawd
.
.