Rhaeadr
Gofalu am y tlawd
  Dianc i fywyd gwell  
 

Heddiw gallwn ystyried yr help a roddwyd i’r tlawd gan Undeb Rhaeadr fel rhy ychydig o lawer. Serch hynny, rhoddwyd help i’r bobl leol gan yr Undeb a heb amheuaeth roedd llawer o’r dynion oedd yn gyfrifol am Undeb Rhaeadr wir eisiau helpu’r tlawd.
Rydym yn gwybod mewn rhai achosion fod yr Undeb wedi cynnig help i’r rheini oedd ei angen fwyaf. Gan fod gwaith yn anodd dod o hyd iddo, symudodd llawer o’r ardal. Symudodd rhai o Cymru yn gyfan gwbl a dechrau bywyd newydd dramor.
Weithiau roedd yr Undeb yn cynorthwyo gyda hyn, fel ag y mae’r darn yma o gofnodion ar ddechrau oes Fictoria yn datgelu.

 
  Entry from Union records
 

Mae'n darllen -
"Emigration - Resolved that the several poor persons being settled in the parish of Rhayader in the County of Radnor comprised in the Rhayader Union, whose names are hereunder written being desirous of emigrating to Lower Canada, the necessary steps be immediately taken to effect the emigration and that a sum not exceeding £2.17.2 [about £2.86] be expended for each person..."

Y rheini a alltudiwyd oedd "Elizabeth Jones, Rhayader, widow aged 37, and her six children: viz. Elizabeth (16), John (14), Thomas (10), Jane (9), Mary (7), and William (5)".

Mae’n rhaid ei fod yn dipyn o antur i’r fam hon a’i phlentyn i adael pob peth yr oeddynt yn gyfarwydd ag ef, a mynd i wlad bell ac estron. Efallai fod eu disgynyddion yng Nghanada heddiw.

Yn ôl i ddewislen Gofalu am y tlawd
.
.

Emigrant sailing ship