Llanandras a'r cylch
Trosedd a chosb
Ddim yn euog o ddwyn ieir  
  O edrych ar hen gofnodion Powys ar droseddau oes Fictoria, mae’n ymddangos bod yr awdurdodau bob tro’n gweithredu’n llym iawn yn erbyn pobl oedd wedi’u cyhuddo o ddwyn a throseddau eraill.
Ond mae yna hefyd nifer o enghreifftiau o bobl a wnaeth ymddangos o flaen y rheithgor yn ystod y Sesiynau Chwarterol ac a gafodd eu canfod yn ddieuog.
 
Llyfr
Gorchmynion
1877
  Mae’r darn yma o’r Llyfr Gorchmynion ar gyfer Hydref 1877 yn dangos bod gwraig wedi’i chyhuddo o ddwyn ieir, ac mae’n darllen -
"A Bill of Indictment [papur yn nodi’r cyhuddiad yn erbyn rhywun] was prepared and found against Sarah Morris for stealing on the 29th day of May 1877 seven domestic fowls and five domestic chickens the property of Thomas Baskerville Mynors. The said Sarah Morris was put upon her trial and was found Not Guilty."
Hens in a basket
 

Roedd Thomas Baskerville Mynors yn 'Sgweier' Cwrt Cleirwy, yn Ynad Heddwch, ac yn AS dros Swydd Henffordd, felly roedd yn rhywun blaenllaw iawn yn yr ardal.
Mewn amser pan oedd hi’n bosibl cael eich carcharu am gyfnodau hirion gyda llafur caled am ddwyn eiddo nad oedd werth rhyw lawer, mae’n siwr ei bod hi’n rhyddhad enfawr cael mynd adref unwaith eto ar ôl yr achos llys !

Yn ôl i ddewislen Trosedd Llanandras