Llanandras a'r cylch
Trosedd a chosb
  Dim heddlu i Sir Faesyfed - eto
 

Trafodwyd y syniad o ffurfio heddlu i Sir Faesyfed mewn cyfarfod o’r Sesiwn Chwarterol a gynhaliwyd yn Llanandras yn Ionawr 1844.
Nid oedd yr Arglwydd Raglaw ar gyfer y Sir yn frwdfrydig iawn ac ni chafodd dim ei wneud tan yn ddiweddarach.

 
Sesiwn
Chwarterol
1844
Quarter Sessions entry
 

Mae’r darn sy’n dod o gofnodion ar gyfer 1844 yn darllen -
"The Lord Lieutenant having communicated to the Chairman his opinion that it would not be expedient under existing circumstances to take any steps for the establishment of a Rural Police in this County ..."

Cafodd Cwnstabliaid Arolygol eu penodi flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach i ofalu am y carchardai ac i oruchwylio cwnstabliaid y plwyfi. Cyflogwyd un ar gyfer Llanandras a chafodd dâl o dair punt ar ddeg y chwarter (tri mis) yn 1846.
Roedd y Cwnstabliaid Arolygol yn derbyn swm o arian i brynu eu dillad ac roedd rhaid iddynt ymddangos yn y Sesiynau Chwarterol er mwyn archwilio a chymeradwyo eu dillad !
Dychmygwch pe bai’r heddlu heddiw yn gorfod mynd allan i brynu gwisg eu hunain !

Yn ôl i ddewislen Trosedd Llanandras