Y
Drenewydd
Ennill
bywoliaeth
Crefftau: gwerthwr glo i gowperiaid | ||
Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf |
Yn ystod cyfnod Fictoria daeth mwy o alw am lo. Roedd llawer o ffatrïoedd a arferai gael eu pweru gan olwyn ddwr, wedi troi’n ddiweddarach i ddefnyddio pwer ager neu stêm. Roedd yr injians stêm yma’n fwy pwerus, ond yn defnyddio llawer o lo i boethi’r dwr i wneud ager. Fel y gwelwch o’r cyfeiriadau yn y rhan aneglur hwn o Gyfeirlyfr Slater, cludwyd y glo i’r ardal, y rhan amlaf, mewn cychod ar y gamlas. Cawsai ei ddadlwytho yno a’i gludo o gwmpas yr ardal mewn cert. Fel y tyfai’r dref defnyddiwyd glo i gynhesu tai newydd y gweithwyr. Cawsai ei ddefnyddio ar y rheilffyrdd ac i wneud nwy hefyd. Defnyddiwyd y nwy glo yn y lampau stryd newydd ac i oleuo tai’r bobl well eu byd. Nid oedd plastig i’w gael yn Oes Fictoria, ac roedd gwydr yn ddrud a bregus. Byddai hylifau yn cael eu cludo mewn casgenni. Roedd y cowper yn gwneud casgenni pren yn ei weithdy i storio hylif. Roedd yn bosib eu tynnu datgymalu neu eu oddi wrth ei gilydd a’u cadw tan eto. Roedd hwn yn waith crefftus a phwysig. |