Y
Drenewydd
Ennill
bywoliaeth
Crefftau: gwneuthurwr brics i saer cerbydau | ||
Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf |
Ehangodd Y Drenewydd yn ystod teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria (Gweler graffiau poblogaeth). Adeiladwyd ffatrïoedd a gweithdai, a thai ar gyfer y gweithwyr a weithiai ynddynt. Adeiladwyd ysgolion newydd, gorsafoedd rheilffyrdd a chapeli hefyd. Roedd yn adeg brysur i gwmnïau adeiladau a chwarelwyr a gwneuthurwyr brics a fyddai’n darparu’r deunydd. Mae’r rhan yma o Gyfeirlyfr Slater yn dangos rhai adeiladwyr lleol a gwneuthurwyr brics yn 1858. |
Er bod crochenyddion yng Nghanolbarth Cymru, byddai llestri’n cael eu cludo i mewn ar y gamlas. Yn ddiweddarach yn ystod teyrnasiad Fictoria byddent yn cael eu cludo ar y rheilffordd. Byddai’r seiri cerbydau a restrir yma’n brysur iawn yn adeiladu cerbydau a thrapiau ar gyfer y teuluoedd mwyaf cyfoethog a faniau ar gyfer busnesau. |